Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
24 Ionawr 2024
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.
(20 munud)
Gofyn i Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth
Heledd Fychan (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am benderfyniad Llywodraeth y DU i wrthod cynnwys y rygbi Chwe Gwlad yn y categori sianeli di-dâl ar gyfer ddibenion darlledu?
Gofyn i’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd
Natasha Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr adolygiad arfaethedig o derfynau cyflymder 20mya?
(5 munud)
(90 munud)
Luke Fletcher (Gorllewin De Cymru): Colli swyddi yn Tata Steel a dyfodol y diwydiant dur yng Nghymru
(60 munud)
NDM8448 Mabon ap Gwynfor (Dwyfor Meirionnydd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi:
a) bod darparwyr gofal hosbis elusennol yn chwarae rhan hollbwysig wrth ddarparu gofal a chymorth hanfodol i bobl sydd wedi'u heffeithio gan salwch angheuol ledled Cymru;
b) bod y sector hosbis elusennol yn darparu gofal i fwy na 20,000 o bobl bob blwyddyn, gyda'u gwasanaethau yn cefnogi pobl sy'n marw i aros yn eu cartrefi eu hunain a lleihau derbyniadau i'r ysbyty, gan sicrhau canlyniadau gwell i unigolion a'r GIG;
c) bod costau cynyddol o ran ynni a staff, pwysau ar y gweithlu, a galw cynyddol am ofal cymhleth yn fygythiad dirfodol i gynaliadwyedd y sector;
d) bod 90 y cant o hosbisau yn cyllidebu ar gyfer diffyg yn 2023/24 ac yn defnyddio cronfeydd wrth gefn i gwrdd â'r diffyg; ac
e) y bydd y galw a'r angen am ofal lliniarol yn tyfu'n sylweddol wrth i'r boblogaeth heneiddio ac mae mwy o bobl yn byw yn hirach gyda chyflyrau cronig lluosog.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) ymrwymo i weithio gyda'r sector i fynd i'r afael â'r heriau cyllido uniongyrchol, gan gynnwys sicrhau cynnig cyflog teg i weithlu hosbisau, sy'n cyfateb i'r cynnydd yn yr Agenda ar gyfer Newid, fel bod cydraddoldeb â chydweithwyr yn y GIG;
b) datblygu ateb ariannu cynaliadwy hirdymor mewn partneriaeth â'r sector, gan gynnwys fformiwla ariannu genedlaethol newydd, cynllun gweithlu, a manyleb gwasanaeth gofal lliniarol a diwedd oes; ac
c) ymestyn adolygiad cyllid gofal diwedd oes Llywodraeth Cymru, y disgwylir iddo ddod i ben ym mis Ionawr 2024, os nad yw hyn yn ymarferol o fewn yr amserlen hon.
Cefnogwyr
Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr)
Cefin Campbell (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Jane Dodds (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Mark Isherwood (Gogledd Cymru)
Peredur Owen Griffiths (Dwyrain De Cymru)
Sioned Williams (Gorllewin De Cymru)
(0 munud)
NDM8458 Delyth Jewell (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol ‘Y tu ôl i’r llenni: Gweithlu’r diwydiannau creadigol’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Hydref 2023.
Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Ionawr 2024.
(60 munud)
NDM8459 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod y rôl hanfodol y mae cynghorau'n ei chwarae wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru a'r heriau cyllido y maent yn eu hwynebu.
2. Yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru yn derbyn y lefelau uchaf erioed o gyllid gan Lywodraeth y DU.
3. Yn nodi bod gan gynghorau dros £2.75 biliwn mewn cronfeydd wrth gefn y gellir eu defnyddio.
4. Yn gresynu bod cynghorau'n ymgynghori ar godiadau o hyd at 25 y cant i’r dreth gyngor ar gyfer blwyddyn ariannol 2024-2025.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) comisiynu adolygiad annibynnol o fformiwla cyllido llywodraeth leol Cymru;
b) gweithio gydag awdurdodau lleol i ddefnyddio eu cronfeydd wrth gefn y gellir eu defnyddio i gadw'r dreth gyngor mor isel â phosibl; ac
c) ei gwneud yn ofynnol i unrhyw awdurdod lleol sy'n cynnig codiad o dros 5 y cant i’r dreth gyngor gynnal refferendwm lleol a chael pleidlais o blaid cyn gweithredu'r cynnydd arfaethedig.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Dileu pwyntiau 1 a 2 a rhoi yn eu lle:
Yn cydnabod y rôl hanfodol sydd gan awdurdodau lleol o ran darparu gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru, y cynnydd sylweddol yn y setliad llywodraeth leol dros y ddwy flynedd ddiwethaf, diogelu'r cynnydd o 3.1 y cant ar gyfer 2024-25, a'r heriau cyllido y mae awdurdodau yn eu hwynebu serch hynny.
Yn cydnabod bod cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25 bellach yn werth hyd at £1.3 biliwn yn llai mewn termau real na phan gafodd ei phennu yn 2021.
Gwelliant 2 Peredur Owen Griffiths (Dwyrain De Cymru)
Dileu popeth ar ôl pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn gresynu at:
a) y tanariannu cronig i Gymru gan lywodraethau olynol y DU, sy'n effeithio ar gyllidebau awdurdodau lleol; a
b) amcangyfrifon o fwlch cyllido o £750 miliwn erbyn 2027 a fydd yn ymwreiddio ymhellach amddifadedd ac anghydraddoldeb.
Yn credu bod cyllid llywodraeth leol yng Nghymru ar daflwybr anghynaladwy heb fodel ariannu teg o San Steffan.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) gofyn yn ffurfiol i Lywodraeth y DU adolygu model cyllido Barnett ar sail anghenion cymdeithasol Cymru i gefnogi pob maes cyllidebol, gan gynnwys cyllid awdurdodau lleol;
b) cyflwyno cynlluniau manwl ar frys a fydd yn rhoi sylfaen gynaliadwy i awdurdodau lleol a'r holl wasanaethau cyhoeddus; ac
c) darparu canllawiau ar sut mae isafswm presennol y Grant Cynnal Refeniw yn ymwneud â setliad llywodraeth leol ar gyfer 2024-25, a datblygu strategaeth i sicrhau y caiff y Grant Cynnal Refeniw ei gymhwyso'n gyson drwy flynyddoedd ariannol dilynol.
Yn galw ar Lywodraeth y DU ar y pryd i weithredu fformiwla ariannu teg bob amser sy'n galluogi Llywodraeth Cymru i ariannu awdurdodau lleol yn ddigonol.
Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol.
Gwelliant 3 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Dileu pwynt 5 a rhoi yn ei le:
Yn nodi y bydd Llywodraeth Cymru yn:
a) parhau i ddatblygu a chynnal fformiwla ariannu llywodraeth leol Cymru mewn partneriaeth â llywodraeth leol; a
b) parhau i gydnabod pwysigrwydd gwneud penderfyniadau democrataidd lleol ynghylch cyllidebau cynghorau a gwasanaethau cyhoeddus.
(30 munud)
NDM8457 Altaf Hussain (Gorllewin De Cymru)
Pwnc llosg: mynd i'r afael â chanser yr esoffagws a'r stumog yng Nghymru.
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 30 Ionawr 2024